Gwirfoddoli Gwirfoddolwch gyda Home-Start a gwneud gwahaniaeth i deulu yn eich cymuned. Elusen genedlaethol yw Home-Start sydd ar gael mewn cannoedd o gymunedau lleol. Rydym yn recriwtio ac yn hyfforddi gwirfoddolwyr i helpu teuluoedd sydd â phlant ifanc. Mae ein gwirfoddolwyr, sydd â phrofiad o fod yn rhieni, yn cynorthwyo rhieni eraill trwy ymweld â nhwyn eu cartrefi am awr neu ddwy bob wythnos. Rydym yn cynnal grwpiau teuluol arbennig hefyd ac yn trefnu digwyddiadau cymdeithasol i deuluoedd. Canllaw cyflym i fod yn wirfoddolwr sy’n ymweld â theuluoedd. Rhaid i chi fod yn rhiant neu â phrofiad fel rhiant. Fel gwirfoddolwr sy’n ymweld â’r cartref, byddwch yn cefnogi teulu yn y cartref am tua dwy awr bob wythnos. Dylech chi fod yn gallu rhoi o leiaf chwe mis o’ch amser i Home-Start. Ni ddylech fod yn rhywun sy’n barnu eraill a dylech fod yn deall y pwysau a ddaw wrth fagu teulu. Bydd rhaid i chi fynychu ein Cwrs Paratoi Gwirfoddolwyr am ddim gyda gwirfoddolwyr newydd eraill cyn cwrdd â’ch teulu cyntaf. Telir treuliau yn ystod hyfforddiant a thra’r ydych chi’n cynorthwyo teulu, a gallech chi gael help gyda chostau gofal plant hefyd. Os hoffech chi, fe allech chi ddewis cael eich hyfforddiant wedi’i gydnabod yn ffurfiol trwy achrediad gan CERTA. Rhaid i chi ddeall bod y cymorth a roddwch i deuluoedd yn gwbl gyfrinachol. Bydd rhaid i chi gael gwiriad manylach DBS/PVG/Access NI. Byddwch chi’n cael cymorth gan eich Home-Start lleol tra byddwch chi’n ymweld â theuluoedd. Pa fath o deuluoedd fyddwn i’n eu helpu? Gall pob math o deuluoedd gael anhawster i ymdopi am bob math o resymau, efallai oherwydd salwch neu anabledd sydd gan blentyn neu oherwydd salwch ôlenedigol, profedigaeth neu unigrwydd. Yn Home-Start rydym yn rhoi cymorth i unrhyw riant, sydd ag o leiaf un plentyn dan bump, sy’n gofyn am ein cymorth. Daw’r teuluoedd yr ydym yn eu cefnogi, fel ein gwirfoddolwyr, o bob math o gefndiroedd. All fy nghymorth a’m cyfeillgarwch wneud gwahaniaeth go iawn? Gall. Mae pob rhiant yn gwybod bod y blynyddoedd cynnar hynny cyn i blant fynd i’r ysgol yn hanfodol ym mywyd plentyn, ac yn Home-Start rydym yn credu bod cyfraniad rhieni’n hollbwysig i greu plentyndod diogel i’w plant. Ond weithiau, mae angen ychydig bach o help llaw ...eich help chi. Beth fyddwn i’n ei wneud fel gwirfoddolwr? Fel rheol, byddwch yn ymweld â theulu yn eu cartref eu hunain unwaith yr wythnos am awr neu ddwy. Y teulu fydd yn penderfynu sut byddwch chi’n helpu mewn gwirionedd. Mae gwirfoddolwyr yn cefnogi rhieni wrth iddyn nhw ddysgu i ymdopi, yn rhoi hwb i’w hyderac yn eu helpu i adeiladu bywydau gwell ar gyfer eu plant. Mae pethau syml yn gwneud byd o wahaniaeth: gwrando, mynd allan o’r tŷ, neu helpu i ddatrys problem nad yw rhiant yn teimlo y gall ei hwynebu ar ei ben ei hun. Oes angen unrhyw gymwysterau arnaf i fod ynwirfoddolwr? Yr unig ‘gymhwyster’ gwirioneddol sydd ei angen yw profiad o fagu plant. Mae agwedd gyfeillgar a chymwynasgar yn hanfodol, yn ogystal â dealltwriaeth o’r pwysau sydd ar rieni. Rydym yn gwerthfawrogi pobl sy’n osgoi barnu eraill; pobl a fydd yn parchu’r ffaith eu bod wedi cael eu gwahodd i gartref teulu; pobl a fydd yn trin mam neu dad yn gyfartal. Ydy’r gwirfoddolwyr yn cael unrhyw hyfforddiant? Ydyn. Mae recriwtio, sefydlu, hyfforddi a chefnogi ein holl wirfoddolwyr yn bwysig dros ben. Cewch eich cynorthwyo yn ystod eich hyfforddiant a thrwy gydol cyfnod eich cyswllt â theuluoedd. Mae Cwrs Paratoi uchel ei barch Home-Start wedi’i achredu gan CERTA. Os yweich Home-Start yn cynnig yr achrediad hwn, byddwch chi’n gallu cael credydau trwy gael eich hyfforddiant Home-Start wedi’i gydnabod yn ffurfiol. Pa fudd fyddai gwirfoddoli i Home-Start yn ei roi i mi? Gwybod eich bod wedi helpu; cynyddu’ch hunan-barch a’ch hyder; hyd yn oed eich galluogi i fynd gam yn agosach at swydd. A allaf alla i helpu heb ymweld â theuluoedd? Gallwch. Mae angen gwirfoddolwyr ar Home-Starts lleol i helpu i gynnal grwpiau teulu a gweithgareddau cymdeithasol ac i helpu i godi arian hefyd. Mae angen ymddiriedolwyr gwirfoddol arnynt hefyd i’w helpu i reoli eu gwaith. Sut alla i gael gwybod mwy am fod yn wirfoddolwr Home-Start? Cysylltwch â’ch Home-Start lleol am sgwrs anffurfiol. Manage Cookie Preferences